gestartet von Rhys (26.03.2008, 11:14)
S’mai. Wedi dechrau’r grŵp i weld os oes unrhywun arall yma’n siarad Cymraeg yma heblaw am fi (ac Annettee)
Rhys dwi, o’r gogledd yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerdydd. Hoff o gwrw ‘go iawn’ a bwyd da. Dwi wrth fy modd gyda gwefannau Gwe2.0aidd fel hwn.
Rhys hat diesen Beitrag 26.03.2008, 11:28 geändert
Sut mae pethau yn mynd? Annette ydw i, o’r Almaen yn wreiddiol.
‘Rwy wedi byw yng Nghaerdydd fel Rhys, y brifddinas. Mi oedd hynny yn dda iawn! Symudais i Aberystwyth gyda fy nghwaith. Nawr ‘rwy’n byw ym Machynlleth.
Dwi ddim yn gwybod dim byd am Gwe2.0aidd yn anffodus, ond hoffwn i. Ah, darllenais i jyst nawr ar Wikipedia Almaeneg bod cysylltiadau yn bwysig gyda Gwe2.0aidd. Oce.
Beth arall amdanaf? Dysgais i Gymraeg ond dwi ddim yn dyfnyddio Cymraeg yn ddigon. Os ‘rwy’n gallu fy mod i’n licio ymweld pob Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
‘Rwy’n hoffi darllen llyfrau sy’n dod o Gymru, cerddoriaeth Cymraeg.
Cwrw go iawn - mae hynny yn bwysig - wrth gwrs!
Fy mreuddwyd yw gweld gem rygbi yn Stadiwm y Milenniwm - yn fyw gyda ffrindiau o Gymru un diwrnod!
Fy mreuddwyd arall yw bod rhai o bobol o Gymru ddim yn casau pobol o Loegr, jyst bod maen nhw’n dod o Loegr (dydy hynny ddim yn digwydd cymaint - diolch byth!). Hefyd, hoffwn i helpu cymunedau Cymreig, gwella rhai o wasanaethau. Dwi ddim yn hoffi pobol o Loegr sy’n prynu ty gwyliau yng Nghymru neu y rhai sy ddim eisiau dangos unrhyw diddordeb mewn y ddiwylliant yng Nghymru neu yr iaith Cymraeg.
‘Rwy’n nabod pobol yn yr Almaen a gwledydd eraill ble maen nhw wedi dysgu Cymraeg! Arbennig o wych!
Mae ym mhob man diddordeb am GYMRU!!!
Diolch Rhys am y grwp Qypewyr Cymraeg o’r diwedd!
Sori am fy nghymeriadau.
Netty hat diesen Beitrag 26.03.2008, 15:35 geändert
Wel Annette dwi ddim yn gwbod llawer chwaith ond mi fedrai ddeud dipyn bach am fi fy hun,r’wyf yn byw yn Nhrefor Caernarfon erioed dipyn bach o flynyddoedd wan,yn briod i Gwenfair ers bron i 30ain bellach a mae gennym dair o gennod.Rhedeg busnes dodrefn cegin,lloft ac ystafel ymolchi ers 21ain, mwynhau gwyliau,gwin a cadw pysgod mor o dramor,fel yn y lluniau.Dim digon o amser rhydd i fod ar Qype gymaint a fuaswn yn hoffi.felly rhywun angen cegin newydd dewch yn llu i Drefor.